Annwyl Aelodau'r Cynulliad

Cynhaliodd y Bwrdd Taliadau ei gyfarfod olaf yn 2014 ar 12 Rhagfyr 2014. Ysgrifennaf atoch i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi.

Yr oeddwn yn falch o nodi ein bod, ar ddiwedd blwyddyn brysur, yn parhau ar y trywydd iawn i gyflawni'r hyn a ymgymerwyd, sef adolygiad cynhwysfawr o bob agwedd ar y Penderfyniad flwyddyn cyn Etholiad Cyffredinol Cymru ym mis Mai 2016.

Trafodwyd y materion a ganlyn – gyda'r cynigion a'r penderfyniadau wedi'u tanlinellu.

Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad

Ystyriodd y Bwrdd y cyflog a'r buddiannau sydd ar gael i staff cymorth yn 2015-16.

Ystyriodd y Bwrdd cynnydd sector cyhoeddus 1% Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd yn y Gyllideb, y cynnydd diweddaraf mewn enillion canolrifol yng Nghymru (1.2% yn 2014) a newidiadau yn y gyfradd chwyddiant (Mynegai Prisiau Defnyddwyr 1.3% dros y 12 mis tan fis Hydref 2014) a'r 1% o gynnydd mewn cyflog ar gyfer Aelodau'r Cynulliad.

Fel yr ydym yn cynnig ar gyfer cyflogau Aelodau, credwn y gallai fod gwerth mewn mabwysiadu enillion canolrifol Cymru fel y ffordd 'safonol' o ddiweddaru cyflogau staff cymorth yn y dyfodol. Fodd bynnag, bydd hynny'n fater i'r Bwrdd a fydd yn ei olynnu i'w ystyried a'n ffocws ar hyn o bryd yw cyflog ar gyfer blwyddyn olaf y Cynulliad hwn.

Rydym yn cynnig cynyddu cyflogau staff cymorth 1% ar gyfer 2015-16 neu ffigurau Mawrth 2015 ar gyfer enillion canolrifol ASHE yng Nghymru – pa un bynnag sydd fwyaf.

Hoffai'r Bwrdd gyflwyno pecyn wedi'i gostio'n llawn pan fydd yn cyhoeddi'r Penderfyniad terfynol ym mis Mai ar gyfer y Pumed Cynulliad. Felly, ystyriwyd a ddylid pennu cyflog dangosol ar gyfer staff cymorth yn 2016-17, sef blwyddyn gyntaf y Pumed Cynulliad, gan ddod i'r casgliad na ddylem wneud hynny. Bydd hyn yn rhoi rhyddid i'r Bwrdd olynol bennu cyflogau ar lefel briodol ym mis Ionawr 2016.

Roedd y staff cymorth wedi gofyn inni edrych ar y cyfraniadau pensiwn y mae'r Cynulliad yn eu cyfrannu ar ran Aelodau'r Cynulliad. Mae'n 10% ar hyn o bryd. Er bod y gyfradd hon yn gyfraniad is na llawer o gymaryddion yn y sector cyhoeddus, mae'n gyfartal â'r cyfraniadau a gaiff staff cymorth yn San Steffan a Senedd yr Alban, ac yn fwy hael na llawer o gynlluniau'r sector preifat. Nododd y Bwrdd fod ganddo gyfradd o ddim cyfraniad gan staff cymorth, yn wahanol i'r rhan fwyaf o bensiynau'r sector cyheoddus.

Nid yw'r Bwrdd yn cynnig newid cyfraniadau pensiwn y cyflogwr i staff cymorth ar gyfer 2015-16.

Hefyd, trafododd y Bwrdd eiriad manwl yr yswiriant marwolaeth mewn gwasanaeth ar gyfer staff cymorth, ac addasiadau i eiriad y Penderfyniad ynghylch diswyddo staff cymorth er mwyn sicrhau bod yr holl staff cymorth (p'un a'i cyflogir gan Aelodau unigol neu'r grŵp) a gaiff eu diswyddo'n sydyn (dim mwy na mis o rybudd) yn cael dwywaith y ddarpariaeth statudol, yn hytrach na'r 1.5x statudol safonol.

Byddem yn croesawu ymatebion i'r ymgynghoriad ar y cynigion uchod ar gyfer cyflog staff cymorth yn 2015-16. Dylid cyflwyno ymatebion erbyn 11 Chwefror 2015.

Costau Swyddfa

Mae hwn yn faes lle yr ydym wedi cael ychydig iawn o adborth manwl gan yr Aelodau. Byddem yn croesawu unrhyw sylwadau gan yr Aelodau presennol ynghylch maint, lleoliad, ansawdd a hygyrchedd swyddfeydd cyn ein cyfarfod ym mis Ionawr. (Byddwn hefyd yn codi hyn gyda'r grŵp o gynrychiolwyr).

Cymorth i Grwpiau

Edrychodd y Bwrdd mewn mwy o fanylder ar y cymorth sydd ar gael i grwpiau. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar yr egwyddorion o pam mae'r Bwrdd yn cynnig cymorth i grwpiau.

Cytunodd y Bwrdd fod dwy agwedd sylfaenol o ran cymorth ar gyfer grwpiau:

·         galluogi ac annog gwaith craffu effeithiol ar y Llywodraeth;

·         er mwyn sicrhau bod gan yr holl grwpiau ddigon o gymorth gweinyddol i weithredu mewn ffordd gydgysylltiedig ac effeithlon.

Bydd y Bwrdd yn ystyried y mater hwn ymhellach yn ei gyfarfod nesaf a gofynnwyd am waith pellach gan yr ysgrifenyddiaeth i sicrhau bod y lefel gyffredinol o gymorth sydd ar gael i grwpiau yn cyfrannu at yr egwyddor o gynyddu capasiti'r Cynulliad. Byddwn yn ymgynghori gyda'r Aelodau ar unrhyw gynigion ar gyfer newid yn dilyn ein cyfarfod nesaf ym mis Ionawr.

Pontio i'r Pumed Cynulliad a chynllun pensiwn newydd

Ystyriodd y Bwrdd sut i ymdrin â deiliaid swyddi sy'n parhau i ddal swydd ar ôl diddymiad y Pedwerydd Cynulliad. Mae'r categori hwn yn cynnwys Gweinidogion Cymru, y Llywydd a phedwar Comisiynydd y Cynulliad. Gofynnodd y Bwrdd am waith pellach i sicrhau bod unrhyw drefniadau mor syml â phosibl i'w gweinyddu ac na ddylent rwystro Aelodau rhag aros yn eu swydd.

Y camau nesaf

 

Fel sy'n arferol, rwy'n bwriadu cyhoeddi'r llythyr hwn yn gyhoeddus ar ein gwefan, cyn gynted ag y bydd yr Aelodau wedi cael cyfle i'w ddarllen.

 

Byddaf yn cynnal un o fy sesiynau galw heibio rheolaidd ar gyfer pob Aelod yn y flwyddyn newydd, sef ar 14 Ionawr, rhwng 14.00 a 16.00. Byddaf yn trefnu cyfarfodydd gyda grwpiau cynrychioliadol yr Aelodau a'r staff cymorth yn fuan ar ôl hynny.

 

Byddwn yn ymgynghori ar unrhyw newidiadau arfaethedig i'r Penderfyniad ar gyfer blwyddyn olaf y Cynulliad hwn ym mis Ionawr/Chwefror.

 

Byddwn yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghori ar Lwfansau a Chyflogau yn ein cyfarfod ar 16 Ionawr. Yna, byddwn yn cyhoeddi pecyn drafft ar gyfer y Pumed Cynulliad ar gyfer ymgynghoriad terfynol yn y gwanwyn.

 

Rwy'n barod iawn i gwrdd ag Aelodau'r Cynulliad yn unigol neu â grwpiau pleidiau i drafod unrhyw agwedd ar waith y Bwrdd. Os hoffech gwrdd â mi, cysylltwch â Gareth Price, Clerc y Bwrdd, drwy anfon neges at taliadau@cynulliad.cymru i wneud trefniadau. 

 

Sandy Blair CBE DL